Aldi

Aldi yw un o’r cwmnïau preifat mwyaf yn y byd, gyda mwy na 7,000 o siopau ledled Ewrop, Gogledd America ac Awstralia. Agorodd Aldi ei siopau cyntaf yn y Deyrnas Unedig ym 1990 ac mae ganddo fwy na 700 o siopau ar draws y wlad erbyn hyn.

Mae Aldi’n canolbwyntio ar ansawdd yn hytrach na nifer, gan gyflenwi amrywiaeth o fwydydd sy’n cynnwys llawer o’r eitemau bwyd wythnosol y mae eu hangen ar siopwyr. Mae hyn yn caniatáu i Aldi gael y prisiau isaf gan gyflenwyr ac yna throsglwyddo’r arbedion i gwsmeriaid.

Mae’r ymrwymiad hwn i ansawdd wedi helpu Aldi i ennill llu o wobrau gan y diwydiant a chwsmeriaid, gan gynnwys hoff archfarchnad Prydain yn arolwg boddhad cwsmeriaid Which? yn 2018, y pleidleisiodd siopwyr yn y DU amdano.

Mae Aldi’n credu y byddai cyflwyno siop newydd yn y lleoliad hwn yn darparu mwy o fannau parcio a siop o ansawdd uchel i drigolion Bangor, gan ddarparu profiad siopa modern i gwsmeriaid, gan lenwi’r silffoedd â’r un amrywiaeth o gynhyrchion arobryn.

Freshwater Group

The Bampton Property Group Limited (sy’n rhan o Freshwater Group) sy’n berchen ar y safle ar hyn o bryd. Bydd y cais cynllunio arfaethedig yn cael ei weithredu gan The Bampton Property Group.

Mae gan Freshwater Group of Companies ddaliadau eiddo sylweddol ledled y DU a, dros y ddeg mlynedd diwethaf, mae wedi cymryd rhan weithredol mewn sawl datblygiad yng nghanol Llundain, yn ogystal â Gateway Retail Park yn Lowestoft a siopau Aldi newydd yn Dartford a Newton Aycliffe.

Newton Aycliffe Aldi
CGI of Lowestoft
Dartford The Orchards