Ein Cynnig
Gallwch weld gwybodaeth fanwl yn y dogfennau cynllunio drafft, sydd ar gael i’w gweld neu eu lawrlwytho ar ein tudalen Dogfennau a Deunydd i’w Lawrlwytho.
Ynglŷn â’r cynigion:
- Mae’r safle dan berchnogaeth The Bampton Property Group (rhan o’r Freshwater Group) a byddant yn ei ddatblygu
- Siop fwyd Aldi newydd, maint cymedrol, gydag arwynebedd gwerthu net o 1,254m2
- Ailddatblygu safle tir llwyd gwag, oedd yn safle talu a chario Blakemore yn flaenorol, oddi ar Ffordd Caernarfon
- Mynedfa i gwsmeriaid oddi ar Ffordd Caernarfon, a fydd yn cael ei wella er mwyn rhoi mynedfa ar y cyd i Aldi a’r siop Dunelm gyfagos
- Lle i 113 o geir, gan gynnwys 6 man anabl a 7 man i rieni a phlant
- Parcio rhad ac am ddim i gwsmeriaid
- Mannau parcio penodedig i feiciau
- Diogelu tua 27 o swyddi lleol amser llawn (sydd yn y siop ar Ffordd Garth ar hyn o bryd) a chreu deg swydd arall, a fydd yn cael eu talu ar gyfradd diwydiant-arweiniol o leiafswm o £9.10 yr awr
- Cyfleoedd ychwanegol am gyflogaeth yn ystod y cyfnod adeiladu ac yn y gadwyn gyflenwi
- Ymgorffori gwaith tirlunio deniadol o amgylch y safle er mwyn gwella sut mae’n edrych
- Siop newydd mewn lleoliad manwerthu rhagorol a fyddai’n golygu na fydd angen i gwsmeriaid deithio ymhellach
Priffyrdd, mynediad a pharcio
Rydym ni’n bwriadu cynnwys 113 o fannau parcio, gan gynnwys 6 man i bobl anabl a 7 man i rieni a phlant ar gyfer y siop Aldi. Mae hyn yn cydymffurfio â pholisi Cyngor Sir Gwynedd, yn ogystal â gofynion gweithrediadol Aldi. Mae cynigion Freshwater hefyd yn cynnwys 56 o fannau parcio ychwanegol ar gyfer y siop gyfagos, Dunelm.
Mae’r cynnig hefyd yn cynnwys gwella Ffordd Caernarfon o amgylch y fynedfa ar y cyd i’r safle a’r siop Dunelm gyfagos, trwy greu cylchfan.
Mae rhagor o wybodaeth atodol fanwl ac adroddiadau gan ymgynghorwyr ynghylch y trefniadau traffig, mynediad a pharcio, wedi’i chynnwys yn y dogfennau sydd ar gael i’w gweld a’u lawrlwytho yma.
Dyluniad cyfoes
Ein cynnig yw darparu siop fwyd ddeniadol o ansawdd uchel ar gyfer y gymuned oddi ar Ffordd Caernarfon, Bangor.
I sicrhau ymddangosiad rhagorol yn y tymor hir, mae Aldi’n defnyddio deunyddiau o ansawdd uchel tu fewn a thu allan ei hadeiladau. Bydd y siop Aldi newydd yn defnyddio cyfuniad o gladin glo carreg lwyd a chladin arian metelig gyda phlinth briciau siarcol, sy’n cynrychioli nodweddion y datblygiadau manwerthu gerllaw ar hyd Ffordd Caernarfon. Bydd yn cynnwys ffenestri mawr ar hyd y wedd orllewinol, ynghyd â chanopi nodwedd metel cywasgedig cyfoes.