Croeso

Cynigion ar gyfer safle blaenorol talu a chario Blakemore oddi ar Ffordd Caernarfon, Bangor

Mae Aldi, y manwerthwr bwyd disgownt sydd wedi ennill gwobrau, yn paratoi cynlluniau i agor siop fwyd newydd o ansawdd uchel yn safle blaenorol Blakemore oddi ar Ffordd Caernarfon. Cyflwynir y cynnig gan The Bampton Property Group (sy’n rhan o Freshwater Group).

Byddai’r cynllun hwn yn darparu siop fwyd Aldi ddeniadol, fodern mewn lleoliad cyfleus a hygyrch yn ne Bangor, gan drawsnewid safle tir llwyd sydd wedi bod yn wag ers tair blynedd. Hefyd, byddai’n darparu gwelliannau i Ffordd Caernarfon o ran mynedfa’r safle a rennir â’r siop Dunelm gyfagos, trwy greu cylchfan.

Os bydd y caniatâd cynllunio’n cael ei roi ar gyfer y cynnig hwn, bydd Aldi’n symud o’i siop ar Ffordd Garth i Ffordd Caernarfon.

Fel rhan o’r broses ymgynghori statudol, sbardunodd Freshwater y cyfnod y cyfnod ymgynghori 28 diwrnod statudol cyn ymgeisio ar ddydd Gwener 22 Chwefror 2019 ar gyfer y safle hwn.

Gallwch ddarllen gwybodaeth fanwl am y cynigion yn ogystal â’r dogfennau cynllunio drafft yn yr adran Dogfennau a Deunydd i’w Lawrlwytho.

Bydd Freshwater yn cyflwyno’r cais cynllunio i Gyngor Sir Gwynedd ym mis Ebrill 2019. Rydym yn edrych ymlaen at glywed eich barn a’ch adborth ar ein cynigion.

Arddangosfa Gyhoeddus

Byddwn yn cynnal arddangosfa gyhoeddus i ddangos y cynlluniau a chael adborth gan y gymuned leol. Byddem ni wrth ein bodd petaech chi’n gallu mynychu:

Ar: Ddydd Gwener 8 Mawrth 2019

Rhwng: 2.30pm a 6.30pm

Yn: Eglwys Fethodistaidd Bangor, y Stryd Fawr, Bangor, LL57 1NR.

Bydd aelodau o dîm y prosiect ar gael i roi rhagor o fanylion am y cynigion ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi. Hefyd, bydd modd i chi roi adborth yn yr arddangosfa gyhoeddus.

Rydym yn awyddus i glywed eich adborth am ein cynigion am siop fwyd gymunedol newydd ar Ffordd Caernarfon. Mae manylion am y ffyrdd y gallwch ddarparu eich adborth ar gael ar ein tudalen Cysylltu, neu gallwch ddarparu adborth ar-lein trwy’r dudalen Dweud eich barn.