Newyddion
Cyhoeddi ymgynghoriad ar gyfer siop Aldi newydd ym Mangor
Mae Aldi, y manwerthwr bwyd disgownt sydd wedi ennill gwobrau, yn paratoi i agor siop fwyd newydd o ansawdd uchel yn safle blaenorol talu a chario Blakemore oddi ar Ffordd Caernarfon ym Mangor. Bydd y cynnig yn cael ei gyflwyno gan berchennog y safle a’r datblygwr blaenllaw, The Bampton Property Group – sy’n rhan o’r Freshwater Group – ac mae’n gwahodd y gymuned leol i ddweud eu barn.
Bydd y cynigion yn gweld y safle, sy’n wag ar hyn o bryd, yn cael ei thrawsnewid yn siop fwyd fodern, ddeniadol, a bydd ganddo arwynebedd gwerthu net o 1,254m², 113 o fannau parcio ceir, gan gynnwys mannau parcio penodedig i bobl anabl a rhieni a phlant a chyfleusterau parcio ychwanegol i feiciau modur a beiciau. Mae’r cynnig hefyd yn cynnwys gwelliannau i Ffordd Caernarfon o gwmpas y fynedfa i’r safle a’r siop Dunelm gyfagos trwy greu cylchfan.
Os bydd y cais yn derbyn caniatâd cynllunio, bydd Aldi’n symud o’i siop bresennol ar Ffordd Garth i Ffordd Caernarfon. Byddai’r cynnig yn diogelu tua 27 o swyddi amser llawn ac yn creu deg o swyddi newydd, a fydd yn cael eu talu ar gyfradd diwydiant-arweiniol o leiafswm o £9.10 yr awr. Hefyd, byddai cyfleoedd ychwanegol am gyflogaeth yn ystod y cyfnod adeiladu a thrwy’r gadwyn gyflenwi.
Fel rhan o’u hymrwymiad i ymgynghori â’r gymuned leol, mae Freshwater ac Aldi’n gwahodd y gymuned leol i arddangosfa gyhoeddus:
Ar: Ddydd Gwener 8 Mawrth 2019
Rhwng: 2.30pm a 6.30pm
Yn: Eglwys Fethodistaidd Bangor, y Stryd Fawr, Bangor, LL57 1NR.
Mae gwybodaeth fanwl am y cynigion, a’r ffyrdd y gall trigolion ddarparu eu hadborth, ar gael ar wefan y prosiect: aldi-bangor.consultationonline.co.uk.
Dywedodd llefarydd ar ran Freshwater:
“Rydym yn falch i gyflwyno ein cynlluniau ar gyfer siop newydd ym Mangor, ac rydym ni eisiau clywed barn y bobl leol cyn i ni gyflwyno cais cynllunio ym mis Ebrill.”
Dywedodd llefarydd ar ran Aldi:
“Rydym yn falch o gyhoeddi ein bwriad i weithio gyda Freshwater i adeiladu siop Aldi newydd oddi ar Ffordd Caernarfon.”
“Byddai siop newydd yn y lleoliad hwn yn darparu mwy o fannau parcio a siop fodern o ansawdd uchel i drigolion Bangor sy’n darparu profiad siopa modern i gwsmeriaid, gan lenwi’r silffoedd â’r un amrywiaeth o gynhyrchion arobryn.”
Os oes gennych ragor o gwestiynau, gallwch gysylltu â’r rhif llinell wybodaeth Rhadffôn ar 0800 298 7040, e-bost feedback@consultation-online.co.uk neu ymweld ag aldi-bangor.consultationonline.co.uk.