Cysylltu
Rydym yn awyddus i glywed eich adborth ar ein cynlluniau ar gyfer siop fwyd gymunedol newydd ar Ffordd Caernarfon. Bydd yr adborth a gyflwynwyd cyn dydd Gwener 22 Mawrth 2019 yn cael ei adolygu gan dîm y prosiect a’i ystyried cyn cyflwyno’r cynlluniau terfynol i Gyngor Gwynedd.
Bydd ein dulliau ymgynghori a’r adborth a dderbyniwyd yn cael eu crynhoi yn yr Adroddiad Ymgynghori Cyn Ymgeisio, a gyflwynir fel rhan o’r cais cynllunio.
Gallwch gysylltu â ni a gadael eich adborth trwy ddefnyddio’r dulliau canlynol:
Gwefan ein hymgynghoriad, trwy glicio ar y botwm Dweud eich barn.
Ffôn: 0800 298 7040
E-bost: feedback@consultation-online.co.uk
Arddangosfa Gyhoeddus
Bydd Freshwater ac Aldi yn cynnal arddangosfa gyhoeddus i ddangos y cynigion:
Ar: Ddydd Gwener 8 Mawrth 2019
Rhwng: 2.30pm a 6.30pm
Yn: Eglwys Fethodistaidd Bangor, y Stryd Fawr, Bangor, LL57 1NR
Bydd aelodau o dîm y prosiect ar gael i roi rhagor o fanylion am y cynigion ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi. Hefyd, bydd modd i chi roi adborth yn yr arddangosfa gyhoeddus.